Tuesday 1 May 2018

Mae gan SNAP Cymru rif newydd ar gyfer ei Linell Gymorth

0808 801 0608


Mae galwadau am ddim yn golygu bod pawb yn gallu defnyddio ein gwasanaeth ni, heb ystyried incwm ariannol na modd yr unigolyn. Mae ein Swyddogion a’n Gwirfoddolwyr Teuluoedd a Phobl Ifanc yn darparu gwybodaeth gyfrinachol a diduedd ar bob agwedd ar anghenion dysgu ychwanegol, yn ogystal â sicrhau bod barn rhieni a gofalwyr yn cael ei chlywed a’i deall a’u bod yn deall eu hawliau, eu rôl a’u cyfrifoldebau.
  

Gall teuluoedd a gweithwyr proffesiynol gael gwybodaeth a chyngor
drwy gyfrwng ein llinell gwybodaeth a chyngor o
ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.30 am – 4.30 pm
.


Mae ein Llinell Gymorth yn eithriadol brysur ac rydym yn derbyn mwy na 7,000 o alwadau am gefnogaeth bob blwyddyn. I gefnogi’r galw, rydym yn recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr yn barhaus a hefyd rydym wedi cyflwyno ffurflen gyfeirio a holi ddiogel ar ein gwefan

Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd a phobl ifanc yn gweld ei bod yn gallu datrys problemau penodol ar ôl cael y cyngor. Gall pobl ddychwelyd fel y mynnant i holi am broblem benodol neu broblemau eraill fel maent yn codi.

No comments:

Post a Comment